BRITANNIA TRAVEL FORUM
Re: translation
Post Follow Up
Posted by: laura thomas on October 23, 2005
In Reply to: Re: translation
Posted by Marjorie on December 27, 2004
Subject: Re: translation
Fe gipiodd Harri'r VII Harri Tudur goron Prydain o dan faner draig goch Cymru. Ond erbyn 1536 yr oedd Cymru, o ran y gyfraith, yn rhan o Loegr, a Saesneg oedd unig iaith swyddogol y wlad.
Daeth y Cymry i arfer â bywyd wedi'r Goncwest Edwardaidd yn 1282, ond arhosodd elfen o ddrwgdeimlad. Bu o leiaf bum gwrthryfel o bwys cyn i Owain Glyndwr lansio'r olaf a'r mwyaf o ymdrechion y Cymry i ennill eu rhyddid. Parodd y gwrthryfel o 1400 i 1410. Mae'r rhesymau tu ôl i'r ymgais yn destun trafod o hyd, ond mae'n ymddangos bod hunaniaeth ac iaith yn eu plith.

Mewn llythyr at Bab Avingon yn 1406 mynnodd Owain Glyndwr y dylai offeiriaid yng Nghymru ddeall yr iaith. Ond erbyn 1415 yr oedd Glyndwr wedi mynd ac roedd beirdd yn aros yn ddisgwylgar am Fab Darogan arall fyddai'n dod i waredu'r Cymry o orthrwm y Sacsoniaid.

Fe ddaeth un ym mherson Harri Tudur, a fyddai'n cael ei goroni'n Harri'r VII maes o law. Yr oedd yn un o ddisgynyddion teulu'r Tuduriaid o Ynys Môn, oedd wedi ochri gyda Glyndwr bron ganrif yn gynharach.

Fe wnaeth Harri yn fawr o'r cysylltiad pan chwifiodd hen faner y ddraig oedd gan Cadwaladr yn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Yr oedd hi'n ymddangos ei fod yn cyflawni'n hen broffwydoliaethau y byddai'r Cymry'n adennill teyrnas Prydain oddi ar y Sacsoniaid.

I ryw raddau fe elwodd y Cymry o deyrnasiad Harri'r VII. Cafodd rhai o'r cymalau mwyaf gwrth-Gymreig yn y deddfau a basiwyd wedi gwrthryfel Glyndwr eu diddymu. Ond diflannodd unrhyw syniad rhamantaidd y byddai Cymru'n cael ei hen ryddid gwleidyddol a diwylliannol yn ôl pan basiwyd Deddf Uno 1536. Pasiwyd y ddeddf gan Harri'r VIII, mab Harri, gan wneud Cymru'n rhan o Loegr.

Rhan o'r ddeddf oedd gwahardd Cymry uniaith Gymraeg rhag dal swydd gyhoeddus, gwneud Saesneg yn iaith swyddogol y wlad, hanfodol i'r rhai oedd yn llywodraethu, ac felly doedd medru'r Gymraeg bellach ddim yn angenrheidiol i rai roedd yr iaith yn embaras.

Dyma ddechrau'r broses o Seisnigo'r dosbarth hwn, proses a gwblhawyd fwy neu lai erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dylid nodi nad oes unrhyw gofnod am brotestiadau na therfysg yng Nghymru o ganlyniad i basio'r Ddeddf Uno.

Yr oedd tynged yr iaith nawr yn nwylo'r werin. Cymru uniaith Gymraeg oedd y mwyafrif o hyd. Er i'r iaith gael eu halltudio'n ddiseremoni o fywyd cyhoeddus, mae'n eironig bod gwaredigaeth wedi dod o gyfeiriad swyddogol drwy'r newidiadau crefyddol a gyflwynwyd gan yr un Harri'r VIII a basiodd Ddeddf Uno 1536.

may you traslate this for me please thank you laura ann thomas

FOLLOW UPS

Back to Main Forum


   Copyright ©1999 Britannia,com . Design by Unica Multimedia.